Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 24
Mawrth 2020
Amser y
cyfarfod: 10.00
------
(5 munud)
NNDM7315 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
1. Yn atal Rheol Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i:
a) Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a
b) bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn,
fel nad yw’n ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.
2. Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Coronafirws
Y Bil Coronafeirws (Saesneg yn unig)
(0 munud)
(5 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(0 munud)
(0 munud)
(0 munud)
Ni ddewisiwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
(45 munud)
(45 munud)
(0 munud)
(0 munud)
(0 munud)
(0 munud)
(0 munud)
(90 munud)
NNDM7316 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Coronafeirws i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Bil Coronafirws (Saesneg yn unig)
(0 munud)
(0 munud)
(5 munud)
NNDM7317 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 24 Mawrth 2020.
(5 munud)
NNDM7318 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Argyfwng' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:
(i) ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychanegu Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a
(ii) yn dirymu Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a dderyniwyd ar 18 Mawrth 2020.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 31 Mawrth 2020